Home
Rhannwch eich barn ar beth allai ddigwydd yn y sgwâr newydd
Gyda’r camau dylunio diweddaraf wedi’u cwblhau yn dilyn y rownd gyntaf o ymgysylltu â’r gymuned yn gynharach eleni, rydym angen eich syniadau ar gyfer sut y gallai’r sgwâr newydd yng nghanol Caerdydd ddod yn ganolbwynt bywiog o weithgarwch ac ymgysylltu cymunedol.
Y dyluniad terfynol ar gyfer y sgwâr newydd i'w weld yma.
Mae eich adborth a’ch mewnwelediadau trwy gydol ein hymgysylltiad hyd yma wedi bod yn allweddol wrth lunio ein gweledigaeth ar gyfer y gofod cyhoeddus newydd hwn, a dyna pam rydym yn estyn allan atoch unwaith eto, y tro hwn am eich barn ar raglennu’r sgwâr newydd ac awgrymiadau ar beth mathau o weithgareddau y gellid eu cynnal, a phryd.
Cwblhewch yr arolwg isod i’n helpu i ddeall mwy am sut yr ydych yn rhagweld y sgwâr yn cael ei ddefnyddio, a sut y gallai ddod â mwy o ymgysylltu cymunedol i ganol y ddinas.